Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
12 Chwefror 2018
SL(5)181 - Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018
Gweithdrefn: Negyddol
Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adrannau 39 a 58(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 ("Deddf 2004") ac maent yn diwygio Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 ("Rheoliadau 2014").
Mae Rheoliadau 2014 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyfrifon ac archwilio cyrff llywodraeth leol yng Nghymru y mae’n ofynnol archwilio eu cyfrifon yn unol â Rhan 2 o Ddeddf 2004.
O dan Reoliadau 2014, rhaid i gyrff perthnasol mwy gyhoeddi hysbysiadau penodol mewn papurau newydd lleol. Mae’r Rheoliadau hyn yn dileu’r gofyniad hwnnw ac yn ei le yn rhoi gofyniad i arddangos hysbysiad mewn o leiaf un lle amlwg yn ardal y corff.
Mae rheoliad 4 yn dileu’r gofyniad i gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol gynnwys, yn eu datganiad o gyfrifon, y cyfrifon ar gyfer cronfeydd pensiwn a weinyddir yn unol â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2013.
O dan Reoliadau 2014, rhaid i gyrff llywodraeth leol baratoi eu datganiad o gyfrifon erbyn 30 Mehefin yn dilyn y flwyddyn y mae’r datganiad yn ymwneud â hi a’i gyhoeddi erbyn 30 Medi y flwyddyn honno. Mae rheoliadau 5 ac 8 yn newid yr amserlen i gyrff llywodraeth leol baratoi a chyhoeddi eu datganiad o gyfrifon.
Deddf wreiddiol: Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004
Fe’u gwnaed ar: 22 Ionawr 2018
Fe’u gosodwyd ar: 29 Ionawr 2018
Dyddiad dod i rym: 1 Ebrill 2018
SL(5)182 - Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Trefniadau Talu’n Ôl) (Cymru)
2018
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn disgrifio’r darpariaethau y mae’n rhaid eu cynnwys mewn trefniadau talu’n ôl a wneir gan berson sy’n gwneud hawliad o dan adran 63 (hawlio rhyddhad rhag treth a ordalwyd) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. Yn ogystal, mae rheoliad 6 yn disgrifio’r cofnodion y mae’n rhaid i’r hawlydd eu cadw mewn perthynas â’r trefniadau talu’n ôl, ac mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaethau mewn cysylltiad â chosbau (cosbau sy’n ymwneud â chadw cofnodion a threfniadau talu’n ôl).
Deddf wreiddiol: Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016
Fe’u gwnaed ar: 24 Ionawr 2018
Fe’u gosodwyd ar: 29 Ionawr 2018
Dyddiad dod i rym: 1 Ebrill 2018